Aros gyda ni > Gwersyllfa
Mae gwersyllfa Bodwrog yn faes teuluol tawel gyda golygfeydd godidog dros y bae a'r pentiroedd hyd at fynyddoedd Eryri.
Mae cyfleusterau’r safle yn cynnwys:
- Meysydd glaswellt eang 11 metr o led a phob un gyda phwynt cyswllt trydanol (10amp)
- Toiled a chawodydd wedi'u gwresogi
- Cawodydd am ddim
- Sychwyr gwallt am ddim
- Cyfleusterau newid babanod
- Golchdy / ystafell golchi llestri
- Wi-fi am ddim
- Rhewgell am ddim ar gyfer pecynnau iâ a bwyd
Rydym ni hefyd yn cynnig safleoedd llawr caled â gwasanaeth llawn ar gyfer carafanau teithio tymhorol gyda phwyntiau dŵr a gwastraff ar bob safle.
Rydym ni ar agor o ddechrau mis Mawrth tan ddiwedd mis Hydref.
Croeso i gŵn (ar dennyn).
"maes teuluol tawel..."
Mae Abersoch yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid oherwydd ei draethau hardd, chwaraeon dŵr a golff, a’r cyfan dim ond 3 milltir i ffwrdd.
Mae traeth Llanbedrog filltir a hanner i ffwrdd yn y car neu lai na milltir ar hyd llwybr troed cyfagos. Mae dwy dafarn, siop, fferyllfa, garej ac ysgol farchogaeth yn y pentref.
Yn nhref Pwllheli, sydd 5 milltir i ffwrdd, mae siopau, sinema, canolfan hamdden, golchdy a marina newydd.
Yn anffodus nid ydym yn derbyn grwpiau o’r un rhyw na grwpiau gyda mwy na dau deulu neu ddau safle gyda'i gilydd (uchafswm o 4 oedolyn).
Lle mae’n dod i’r amlwg bod archebion sengl yn rhan o archeb grŵp mwy, byddwn yn eu canslo neu’n gwrthod mynediad i’r safle wrth iddynt gyrraedd.
Ni all unrhyw un gyrraedd ar ôl 9.30pm ac ni roddir ad-daliad ar gyfer unrhyw un sy’n gadael yn gynnar nac ar gyfer tywydd gwael.
Rhestr Brisiau Maes Carafannau Bodwrog 2025
Amrywiad Tymhorol yn y Pris
Tymor prysur – 23 Mai i 31 Awst / Tymor tawelach – pob dyddiad arall
Safle glaswellt ar gyfer carafán, cartref modur, fan gwersylla, pabell deulu neu babell drelar ac ati ar gyfer hyd at 2 oedolyn a phlant hyd at 3 oed – yn cynnwys 1 car
Tymor tawelach – £25 / Tymor prysur – £29
Costau ychwanegol:
Pwynt cyswllt ar gyfer safle glaswellt – £6
Oedolion ychwanegol – £12
Plant 3 i 15 oed – £4
Car ychwanegol – £1.70
Gasebo – £3
Jet ski / cwch / storio – £1.70
Ci – £1
Dim ond trwy’r calendr archebu / argaeledd ar-lein y gallwch archebu. Os hoffech holi cwestiwn cyn archebu, gallwch glicio yma i wneud ymholiad ar-lein.
Pod Gwersylla (i ddau) – o £45 y noson - I gael rhagor o wybodaeth am ein Pod Gwersylla, cliciwch yma.
(nid ydym yn caniatáu cŵn yn y pod)
"Bodwrog – y lle perffaith am wyliau teulu"