Lleoliad
Rydym ni wedi ein lleoli ar gyrion pentref Llanbedrog, tua phum milltir o dref Pwllheli.
I weld llwybr ar-lein neu am gymorth:
- Cliciwch yma am gyfarwyddiadau (AA)
Map
"Cyfarwyddiadau o Bwllheli"
Gadewch Bwllheli ar yr A499 i gyfeiriad Abersoch. Wrth i chi gyrraedd Llanbedrog, ar ôl tua 3 milltir, fe sylwch yn gyntaf ar garej ar y chwith. Ewch heibio’r garej a pharhau i fyny allt. Ar ben yr allt, bydd angen i chi fynd i'r dde (Arwydd Aberdaron B4413), gyferbyn â thafarn o'r enw'r Glyn-y-Weddw Arms.
Parhewch drwy bentref Llanbedrog, ewch heibio i dafarn arall ar y chwith o'r enw The Ship.
Bodwrog yw’r drydedd lôn ar y chwith ar ôl tafarn y Ship.
Dilynwch y lôn i’r diwedd a fydd yn dod a chi i’n Ffermdy.
Rydym ni’n mawr obeithio y byddwch yn mwynhau ymweld â’n gwefan ac yn edrych ymlaen at eich ymweliad â Bodwrog.